Y cam cyntaf
Bydd gofyn i chi gwblhau ffurflen gais a’i anfon gyda’r dogfennau cefnogol angenrheidiol atom ni. Mae’r Swyddog Aelodaeth wedyn yn darllen dros eich cais i gael syniad cyffredinol o’ch cwmni neu fenter ac i weld a ydi o’n cyd-fynd â gofynion aelodaeth Cylch.
Gwirio eich cais
Mae’r Swyddog Aelodaeth yn edrych ar fanylion eich cwmni neu fenter, yn darllen y dogfennau a anfonwyd i gefnogi eich cais ac yn crynhoi’r cwbl mewn adroddiad i’w gyflwyno i’r Pwyllgor Aelodaeth.
Cyflwyno eich cais i’r Pwyllgor Aelodaeth
Mae’r Swyddog Aelodaeth yn cyflwyno ei adroddiad ynghyd ag argymhelliad ynghylch eich aelodaeth i’r Pwyllgor Aelodaeth. Mae’r pwyllgor fel arfer yn cymryd wythnos neu ddwy i ddod i benderfyniad.
Cymeradwyo neu wrthod eich cais
Os ydi’r Pwyllgor Aelodaeth yn cymeradwyo eich cais, byddwn yn ychwanegu eich manylion at y rhestrau perthnasol, yn cynnwys rhestr y Cylchgrawn, sef bwletin e-bost Cylch sy’n cael ei anfon allan bob pythefnos. Byddwn hefyd yn gosod eich manylion ar wefan Cylch ac yn eu cynnwys yn chwiliadur Craff am Wastraff.
Os ydi’r Pwyllgor yn gwrthod eich cais, byddwn yn ysgrifennu atoch i ddweud pam y gwrthodwyd o. Mae hawl gennych chi i apelio yn erbyn y penderfyniad drwy lythyr wedi ei gyfeirio at Fwrdd Ymddiriedolwyr Cylch.
Am fwy o wybodaeth yngl?n â’r broses, cysylltwch â’r Swyddog Aelodaeth Kayle Martin ar 029 2051 9000 neu drwy e-bostio
kayle.martin@cylch.org.uk
Diweddarwyd: 6 Chwefror, 2012