Mae cyllid ar gyfer mudiadau ailgylchu cymunedol ar gael drwy Raglen Fuddsoddi Cylch ac Amgylchedd Cymru.
Caiff Rhaglen Fuddsoddi Cylch ei gweinyddu gan y Charity Bank ar ran Cylch. Dibyn y Rhaglen yw rhoi cefnogaeth ariannol ac o fathau eraill i aelodau Cylch i’w galluogi nhw i wella’u cynaladwyedd ariannol.
Gall Rhaglen Fuddsoddi Cylch gynnig:
Cymorthdaliadau
Mae nifer cyfyngedig o gymorthdaliadau o hyd at £10,000 ar gael fel rhan o Raglen Paratoi i Fuddsoddi. Gall yr arian dalu am amser staff a mewnbwn gan ymgynghorwyr ynghyd â’r canlynol:
Benthyciadau
Wrth ichi dyfu, efallai y bydd angen symiau mwy o arian ar eich mudiad fel iddo allu dod yn gynaladwy yn ariannol. Mae Rhaglen Fuddsoddi Cylch yn cynnig benthyciadau i Aelodau Cylch i fod o gymorth ichi dyfu neu amrywio gweithgarwch eich busnes. Gallwn gynnig benthyciadau wedi neu heb eu gwarantu a byddwn yn mynd drwy’r materion a’r dewisiadau sydd ynghlwm â benthyg arian.
Hyfforddiant a mathau eraill o gefnogaeth
Rydyn ni wedi cynnal cyrsiau hyfforddiant fel rhan o raglen sydd wedi ei theilwra ar gyfer datblygu staff ac ymddiriedolwyr. Hefyd rydyn ni wedi cynnal gweithdai unigol yn edrych ar faterion penodol fel monitro ariannol ac osgoi peryglon. Fe wnaethon ni gynnal taith astudio hefyd i weld sut roedd mudiad arall yn defnyddio dulliau mentrus i ariannu’r gwaith sy’n cwrdd â’i amcanion cymdeithasol.
Astudiaethau Achos
Cliciwch yma i weld sut mae Aelodau Cylch yn defnyddio’r Rhaglen Fuddsoddi eisoes i symud tuag at gynaladwyedd ariannol.
Am fwy o wybodaeth yngl?n â Rhaglen Fuddsoddi Cylch, cysylltwch â Sara Main, Charity Bank; smain@charitybank.org / 01629 530944
Amgylchedd Cymru
Mae Cylch yn un o bartneriaid allweddol Amgylchedd Cymru. Partneriaeth sector gwirfoddol yw hon a’i hamcan yw cyfrannu at ddatblygu cynaladwy drwy gefnogi ac annog gweithredu gwirfoddol i amddiffyn a gwella’r amgylchedd
Mae gan Amgylchedd Cymru bum math o gymhorthdal i roi cefnogaeth i fudiadau a grwpiau cymunedol gydag un neu fwy o’r amcanion canlynol:
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Swyddog Datblygu Amgylchedd Cymru Cylch, Eifion Williams
Diweddarwyd y dudalen hon ddiwethaf ar: 15 Tachwedd 2010