A A A

Test

Cynllun Cyflogaeth Cylch

Cynllun Cyflogaeth Cylch 2011-2013

Nod Cylch wrth greu’r cynllun yma ydi annog mwy o bobl i weithio yn y sector amgylcheddol. Y gobaith drwy hynny ydi diwallu anghenion cynyddol diwydiant gwastraff Cymru yn nhermau’r medrau sydd eu hangen. Mae’r cynllun yn cynnig cyflogaeth a hyfforddiant galwedigaethol yn benodol ar gyfer sefydliadau rheoli gwastraff ac ailgylchu yng Ngwynedd, Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych, Caerdydd, Bro Morgannwg a Chasnewydd.

Mae’r cynllun yn rhoi cyfle i bobl ddi-waith a phobl sydd wedi eu heithrio’n gymdeithasol ennill cymwysterau a gweithio yn y diwydiant ailgylchu yn y sector cyhoeddus, preifat a chymunedol.

Drwy weithio gyda chyflogwyr yn y Sector Cyhoeddus, Preifat a’r Trydydd Sector bydd y cynllun yma yn:

Gwella profiad a datblygu medrau’r cyfranogwyr fel bo modd iddyn nhw fynd yn eu blaenau at waith llawn amser yn y diwydiant amgylcheddol;
Rhoi profiad gwaith ymarferol i’r cyfranogwyr a’u cynorthwyo i ennill cymwysterau sydd wedi eu cydnabod gan Fwrdd Hyfforddi ac Ymgynghori'r Diwydiant Rheoli Gwastraff (WAMITAB) a Sgiliau Ynni a Chyfleustodau (EU Skills);

Rhoi cyfle i’r cyfranogwyr ddatblygu medrau ac ennill cymwysterau a phrofiad mewn amrywiaeth o alwedigaethau fel bod ganddyn nhw fwy o obaith o gael gwaith mewn diwydiant sy’n tyfu - diwydiant sydd, digwydd bod, â phrinder gweithwyr medrus;

Sicrhau bod gan gyflogwyr ym meysydd Rheoli Gwastraff ac Ailgylchu ddigon o gyfranogwyr dibynadwy a’u bod yn cynorthwyo’r cyfranogwyr i ddatblygu’r medrau sydd eu hangen arnyn nhw (cyfle prin iawn yn y farchnad waith gyffredin)


Bwriad y Cynllun

  • Rhoi llwybr, heb rwystrau, at waith yn y sector ailgylchu.  
  • Cynyddu’r amrywiaeth o brofiad gwaith yn lleol.
  • Cynorthwyo darparwyr profiad gwaith i ailgylchu mwy.
  • Creu swyddi er mwyn hybu adfywiad economaidd.

Sut mae’n gweithio?

Bydd Cylch yn talu’r isafswm cyflog am 3 neu 9 mis yn llawn amser. Ar gyfradd o £5.93 yr awr, mae hyn yn £953.50 (yn cynnwys cyfraniad Yswiriant Cenedlaethol y cyflogwr) y person pob mis a gaiff ei ad-dalu i’r cyflogwyr gan Cylch. Yn ogystal â hynny fe all Cylch roi hyd at £100 y person i dalu am Offer Diogelu Personol a thalu’n llawn am gymwysterau WAMITAB sy’n berthnasol i’r maes. Yn dibynnu ar y math o brofiad gwaith, bydd pob cyfranogwr yn gwneud un ai diploma QCF Lefel 1 mewn Gweithdrefnau Ailgylchu (NVQ lefel 1 mewn Gweithdrefnau Ailgylchu gynt) neu VRQ lefel 3 mewn Gwastraff Cynaliadwy a Rheoli Gwastraff. Ar ben hynny, fel rhan o’u hanwythiad, bydd yn rhaid i bob cyfranogwr gwblhau Ymwybyddiaeth o Ddiogelwch, Iechyd a’r Amgylchedd (SHEA) ym maes Rheoli Gwastraff. Dyma gymhwyster newydd Cynllun Tystysgrif Sgiliau Adeiladu (CSCS) sydd wedi ei ddatblygu gan Sgiliau Ynni a Chyfleustodau - y Cyngor Sgiliau Sector ar gyfer Rheoli Gwastraff.

Cynllun hyfforddiant 9 mis

I fod yn gymwys ar gyfer hyfforddiant 9 mis, mae’n rhaid i’r cyfranogwyr fod rhwng 18 a 24 mlwydd oed ac wedi cofrestru’n ddi-waith gyda’r Ganolfan Waith ers o leiaf 6 mis. Y sawl fydd yn rhoi’r profiad gwaith fydd yn penderfynu sut i recriwtio a phenodi.

Bydd y tîm y mae Cylch wedi ei neilltuo i gydlynu’r cynllun wrth law i gynorthwyo’r cyflogwyr i lunio swydd ddisgrifiadau ar gyfer y Canolfannau Gwaith. Wedi hysbysebu, bydd y Ganolfan Byd Gwaith yn rhoi manylion y bobl cymwys yn uniongyrchol i’r cyflogwyr. Bydd Cylch yn rhoi cefnogaeth weinyddol ac yn trefnu’r holl hyfforddiant mewn cysylltiad â’r darparwr profiad gwaith. Er bod y cynllun yn talu’r isafswm cyflog, mae rhwydd hynt i’r cyflogwr dalu mwy a defnyddio’r arian sydd ar gael fel cymhorthdal.   

Cynllun hyfforddiant 3 mis

Fe all y Ganolfan Waith gyfeirio pobl cymwys yn uniongyrchol at Cylch, ond serch hynny y cyflogwyr fydd yn gyfrifol am recriwtio. Mae’r gefnogaeth yma ar gyfer unrhyw oedran ond mae’n rhaid i’r cyfranogwyr brofi y bu iddyn nhw fod mewn perygl o golli eu gwaith neu’n ddi-waith am o leiaf 1 diwrnod. Bydd yn rhaid i bob cyfranogwr wneud un ai diploma QCF Lefel 1 mewn Gweithrediadau Ailgylchu (NVQ lefel 1 mewn Gweithdrefnau Ailgylchu gynt) neu VRQ lefel 3 mewn Gwastraff Cynaliadwy a Rheoli Gwastraff.

Am fwy o wybodaeth am y cyfleoedd uchod cysylltwch â:

Gwynedd- ben.roberts@cylch.org.uk

Ynys Môn- anna.jones@cylch.org.uk

Conwy- allan.jones@cylch.org.uk

Sir Ddinbych – ruth.richards@cylch.org.uk

Caerdydd, Casnewydd a Bro Morgannwg – james.jenkins@cylch.org.uk 

Prif Swyddfa Cynllun Cyflogaeth Cylch

Uned 11, Parth 4
Stad Ddiwydiannol Cibyn
Caernarfon
Gwynedd
LL55 2BD

Ffôn: 01286 674 155
 

Ariannwyd gan;

      WCVA Logo  Cylch Logo

Diweddarwyd: Ionawr 2012