Beth yw Cyfrifo Cymdeithasol?
Mae cyfrifo cymdeithasol yn ffordd o fesur effaith cyflawn sefydliad, sy’n ei alluogi i fesur ei werthoedd cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol. Gelwir hyn y dull llinell waelod driphlyg.
Mae paneli archwilio cymdeithasol yn gwirio gwybodaeth y cyfrifon cymdeithasol yn yr un modd y mae archwiliadau cyllidol yn darparu asesiad annibynnol o gyfrifon cyllidol.
Pam cynhyrchu Cyfrifon Cymdeithasol?
Caiff cyfrifo cymdeithasol ei gydnabod fel Strategaeth Mentrau Cymdeithasol Llywodraeth Cynulliad Cymru fel modd o fesur effeithiau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.
Mae’n gynyddol bwysig i fudiadau ailgylchu sy’n tendro am gontractau fedru dangos buddiannau cymdeithasol eu gweithgareddau. Gan fod pryderon amgylcheddol yn flaenoriaeth ar yr agenda, mae’n hanfodol bod mudiadau o bob math yn gallu profi eu bod yn gwneud cymaint â phosibl i leihau eu heffaith ar yr amgylchedd.
Gwasanaethau Cynnal Cyfrifon Cymdeithasol Cylch
Os yw hyn yn apelio atoch, yna mae gwasanaethau cynnal cyfrifon cymdeithasol Cylch ar eich cyfer chi!
Mae gwasanaethau cynnal teilwredig ar gael am bris da, gan gynnwys:
Am fwy o wybodaeth am gyfrifo cymdeithasol, cysylltwch â Sarah Germain; 029 2064 9750 / sarah.germain@cylch.org.uk
Diweddarwyd y dudalen hon ddiwethaf ar: 17 Tachwedd 2010