Mae gan Cylch bedwar categori o Aelodaeth ac mae pob cwmni neu fenter yn trafod efo Cylch pa gategori sy’n fwyaf perthnasol ac addas iddo. Pwyllgor Aelodaeth Cylch sy’n penderfynu pwy sy’n cael bod yn aelod.
Aelodaeth Lawn (Weithredol)
I fod yn Aelod Llawn Gweithredol mae gofyn i’r cwmni neu fenter fod yn gorff cymunedol sy’n ymwneud â lleihau, ailddefnyddio, ailgylchu neu gompostio gwastraff, a hynny yng Nghymru’n bennaf. Mae angen bodloni’r gofynion canlynol:
Aelodaeth Lawn (Ddatblygol)
Mae hwn yn gategori ar gyfer cwmnïau a mentrau sy’n amcanu at fod yn Aelodau Llawn Gweithredol gyda’r nod o ddarparu gwasanaeth ailddefnyddio, ailgylchu neu leihau gwastraff. Mae angen bodloni’r gofynion canlynol:
Aelodaeth Gysylltiol
Mae hwn yn gategori ar gyfer rhwydweithiau cenedlaethol, cyrff ynni adnewyddol ac Awdurdodau Lleol. Mae angen bodloni’r gofynion canlynol:
Aelodaeth Fabwysiol
Fe all Aelod Mabwysiol fod yn unrhyw gwmni neu sefydliad sy’n dymuno cefnogi gwaith Cylch a’i aelodau ond nad ydi o’n disgyn i’r categorïau aelodaeth eraill - er enghraifft, cwmni preifat neu gorfforaeth.
Tâl Aelodaeth
Mae’r tâl aelodaeth yn cael ei gyfrifo ar sail trosiant blynyddol y cwmni neu fenter yn ystod ei flwyddyn ariannol ddiwethaf.
Cliciwch yma i lawrlwytho’r canllaw Tâl Aelodaeth
Diweddarwyd: 6 Chwefror, 2012