Diben Prosiect Ailgylchu yn Nigwyddiadau Cymru yw rhoi systemau ailgylchu ‘arfer gorau’ ar waith yng Nghymru mewn partneriaeth â threfnwyr digwyddiadau, awdurdodau lleol a phartneriaid o’r sector cymunedol.
Mae’r prosiect yn gallu rhoi cyngor a chefnogaeth ymarferol i drefnwyr digwyddiadau gyda rhoi systemau ailgylchu ar gyfer digwyddiadau ar waith yn effeithiol.
Gall y prosiect ddarparu eitemau isadeiledd hefyd fel:
Mae mwy na hanner cant o ddigwyddiadau ledled Cymru wedi cael cymorth ers i’r prosiect ddechrau yn 2006, gan gynnwys:
Caiff y Prosiect Ailgylchu yn Nigwyddiadau Cymru ei ariannu gan y Cynulliad. Caiff y prosiect a swydd y Swyddog Prosiect eu cynnal gan Cylch.
Y partner allweddol yw Craff am Wastraff sy’n cydlynu’r ymgyrch ‘Ailgylchu dros Gymru’ a sy’n gyfrifol am gynhyrchu holl eitemau brand y Prosiect. Mae nodi’r eitemau yn y modd yma’n rhoi neges ailgylchu gyson ledled Cymru, waeth ble cynhelir y digwyddiad.
Mae argraffiad diweddaraf y Canllawiau Ailgylchu ar gael!
I ofyn am gopi e-bostiwch Ruth Llewellyn, neu i lawrlwytho copi cliciwch yma
I wybod mwy am y Prosiect Ailgylchu yn Nigwyddiadau Cymru cysylltwch â Ruth Llewellyn
Diweddarwyd y dudalen hon ddiwethaf ar: 11ed Ionawr 2010