Mae’r Gymdeithas Ailgylchu Tecstilau yn cyfrifo y gall 85% o’r holl decstilau sy’n mynd i wastraff gael eu hailddefnyddio neu eu hailgylchu. Ar hyn o bryd, caiff llai nag 16% o’r holl wastraff tecstilau ei ddargyfeirio rhag mynd i’r llif gwastraff.
Ar hyn o bryd mae Cylch yn gweithio ar gynllun prawf yng Ngogledd Cymru. Bydd aelodau Cylch yn casglu ac yn ailddefnyddio tecstilau, ynghyd â gwerthu tecstilau dros ben i’r masnachwr tecstilau.
Y diben ydy lleihau faint o decstilau sy’n mynd i gladdfeydd sbwriel, ac i sicrhau fod ailgylchu tecstilau o fudd i gymunedau. Bydd gwerthu tecstilau sydd wedi cael eu hailddefnyddio yn creu gwaith lleol ynghyd ag arian ychwanegol i aelodau.
Cylch, wedi llunio adroddiad ar ailgylchu tecstilau sy’n dwyn y teitl “Tecstilau: Y Gwastraff Gwyrdd Newydd?” Mae’r adroddiad yn amlinellu gwaith ymchwil ac argymhellion ar gyfer ailgylchu tecstilau yng Nghymru. i weld yr adroddiad