A A A

Test

Ailgylchu Cymunedol yng Nghymru

Mae ailgylchu cymunedol yn golygu . . .

Ailgylchu’n lleol
Casglu deunyddiau a threfnu eu bod yn cael eu hailwerthu, eu compostio neu eu hailbrosesu yn yr ardal leol. Un o nodweddion mudiadau ailgylchu cymunedol hefyd yw eu bod yn dod â manteision cymdeithasol yn eu sgîl, fel swyddi neu hyfforddiant, neu eu bod yn rhoi eitemau’n uniongyrchol i’r rheini sydd eu hangen.

Trin deunyddiau gwastraff fel adnodd gwerthfawr
Y pentwr yna o bapur, y sborion  annymunol yna, yr hen soffa acw yn y sgip – gall eich ‘sbwriel’ gael ei ailddefnyddio, ei gompostio neu ei ailbrosesu yn eich ardal leol i greu arian a mynd i’r afael ag effeithiau tlodi.

Rhoi’r grym i bobl leol gymryd perchnogaeth o wastraff
Yn ôl at yr hen soffa yna eto: Eich pethau chi ydy’r rhain. Mi fedrwch chi ei anfon o i’r domen neu ei anfon at rywun sydd ei angen. Mae mudiadau ailgylchu cymunedol yn rhoi’r dewis yna ichi.
Cliciwch yma i ddod o hyd i brosiectau fydd yn rhoi ail fywyd i’ch hen bethau.

Cyfrifo cyfoeth nid yn unig yn nhermau ariannol
... ond hefyd yn nhermau’r effaith gadarnhaol ar ansawdd bywyd pobl leol a’u hamgylchedd. Rydyn ni’n cyfrifo manteision cymdeithasol ac amgylcheddol yn y ffordd mae’r rhan fwyaf o fusnesau’n cyfrifo elw.

Cadw adnoddau yn yr ardal leol
 ... gan leihau’r milltiroedd cludo gwastraff.

Darparu cyflogaeth a hyfforddiant i bawb
... gan gynnwys y rhai fu’n ddi-waith ers tro byd a phobl ag anghenion arbennig. Caiff swyddi eu creu’n lleol, gan gadw cyfoeth lle mae’n fwyaf effeithiol – yn y gymuned.

Beth fedr aelodau Cylch ei gynnig
Gall aelodau Cylch gynnig ystod o wasanaethau, gan gynnwys:

  • Casgliadau dodrefn cartref a masnachol ar gyfer ailddefnyddio ac adnewyddu
  • Casgliadau cartref a banciau dillad ar gyfer ailddefnyddio tecstiliau
  • Casgliadau cartref a masnachol ar gyfer ailgylchu
  • Mwynderau dinesig a rheoli safle
  • Casgliadau compostio bwyd a gwastraff gwyrdd
  • Ailgylchu olew coginio yn bio-dise
  • Ystod eang o fentrau addysgol a chodi ymwybyddiaeth
  • Ailgylchu coed
  • Gwasanaethau gwastraff swmpus
  • Atal a lleihau gwastraffu

Dewch i'w Brofi!

Mae Cylch yn casglu data’n flynyddol gan bob Aelod Cyflawn er mwyn mesur cyfraniad y sector cymunedol tuag at ddefnyddio adnoddau a gwastraff yng Nghymru. Enw’r prosiect yma ydy ‘Dewch i'w Brofi!’ (Let’s Prove It!) ac mae ganddo ran allweddol yn ein cynrychiolaeth a’n heiriolaeth ar ran mudiadau ailgylchu cymunedol.

Mae ein data yn amlygu’r ffaith fod er bod dargyfeirio gwastraff o safleoedd tirlenwi yn elfen bwysig yn llwyddiant y sector cymunedol, mae’r manteision cymdeithasol mae Cylch yn eu rhoi yn elfen lawn cyn bwysiced.

Data 2010-11
Yn 2010-11 bu i Aelodau Cylch ddargyfeirio 32,463.19 tunnell o ddeunyddiau o safleoedd tirlenwi.

Roedd hyn yn cynnwys:

  • Ailddefnyddio 4,847.02 tunnell o’r deunyddiau
  • Ailgylchu 18,678.61 tunnell, a
  • Chompostio 8,937.56 tunnell.

Ynghyd â’r canlynol:

  • Mae Aelodau Cylch yn gweithio mewn ugain awdurdod lleol yng Nghymru
  • Mae’r sector yn cyflogi 620 o weithwyr llawn a rhan amser
  • Mae’r sector hefyd yn cynnig ystod o leoliadau gwaith i 2,547 o bobl gan gynnwys cleientiaid y gwasanaethau cymdeithasol, troseddwyr a gweithwyr y farchnad lafur ganolradd.
  • Mae Aelodau Cylch yn rhoi cyfleoedd gwirfoddoli i 2,792 o unigolion
  • Mae 9% o gyfanswm gweithlu Aelodau Cylch (gan gynnwys gwirfoddolwyr) yn anabl.
  • Trosiant blynyddol y sector yn 10-11 oedd £16,989,729.37, gyda 71% o hyn yn incwm a enillwyd.

I weld adroddiad Dewch i'w Brofi! 2010-11

Diweddarwyd y dudalen hon ddiwethaf ar: 12 Mawrth 2012